Evaluation Scotland Wales
The UK Strategy for Financial Wellbeing is taking forward the work of the Financial Capability Strategy Opens in a new window

Mae Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru

Mae Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru

View this page in English / Edrychwch ar y dudalen hon yn Saesnegopens in new window

Mae Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru wedi ei hanelu at yr holl randdeiliaid allweddol, yn cynnwys Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, darparwyr cyngor, banciau, cwmnïau gwasanaethau, sefydliadau cymunedol a rhaglenni wedi eu hanelu at daclo tlodi. Mae gan Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru gysylltiadau ar draws amgylchedd polisi ehangach Llywodraeth Cymru gydag aliniad neilltuol â Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru a ail-ddrafftiwyd ac sydd i’w chyhoeddi ym mis Mawrth 2016.

Dywed ein hymchwil wrthym fod pobl yng Nghymru fymryn yn fwy tebygol ar gyfartaledd na’r DU i fod ag anhawster i gyrraedd y lan. Yn gyffredinol, tebyg iawn yw’r cyfrannau o bobl sydd yn llithro yng Nghymru (10%) o’i gymharu â’r DU (11%). 24% o bobl y DU, o’i gymharu â 23% yng Nghymru, yn dweud eu bod yn llwyddo i dalu biliau’n brydlon ac ymdrin ag ymrwymiadau, er bod hynny’n dipyn o her ar brydiau. Roedd pobl yng Nghymru’n llai tebygol na chyfartaledd y DU i ddweud eu bod yn addasu’u gwariant ar bethau nad ydynt yn hanfodol pan fydd eu bywydau’n newid ac roeddent ychydig yn llai tebygol na chyfartaledd y DU i ddweud bod yn well ganddynt fyw am heddiw yn hytrach na chynllunio am yfory ac ychydig yn fwy tebygol o ddweud ei bod hi’n bwysig cynilo ar gyfer dyddiau duon.

Yng Nghymru galwn ar y sector i gydweithio i sicrhau ein bod yn:

  • Cynyddu cysondeb addysg ariannol ym mhob amgylchedd dysgu gan dargedu dysgwyr o bob oed a’r rhai sy’n eu cefnogi a’u dysgu
  • Gwerthuso ymyriadau galluogrwydd ariannol yng Nghymru mewn modd sy’n ein galluogi i greu meincnod a chymharu ymyriadau ac adnabod yr hyn sy’n gweithio’n well.
  • Cynyddu a rhannu’r gwaith o ddysgu’r ymyriadau sydd o gymorth i bobl feithrin cadernid ariannol
  • Cynyddu faint o unigolion sy’n penderfynu defnyddio gwasanaethau cynghori ariannol, gan ganolbwyntio’n benodol ar deuluoedd gyda phlant a phobl hŷn.

Ceir dadansoddiad manylach yn canolbwyntio ar y dystiolaeth, anghenion a blaenoriaethau ar gyfer pob cyfnod bywyd ac adborth gan randdeiliaid yn Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru. I weld adroddiad Arolwg Galluogrwydd Ariannol Cymru Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol cliciwch yma.