Evaluation Scotland Wales
The UK Strategy for Financial Wellbeing is taking forward the work of the Financial Capability Strategy Opens in a new window

Join us on 15 November 2018 at Cardiff Castle

Talking Money in Wales/Siarad am Arian yng Nghymru

Thursday 4 October 2018

Sgroliwch lawr ar gyfer y Gymraeg

We are delighted to invite you to join us on 15 November at 11.00am at Cardiff Castle (Undercroft) to celebrate and hear about the delivery of financial capability work across Wales, as part of the Wales Talk Money Week (12-18 November).

Organised under the umbrella of the Financial Inclusion Strategy for Wales and the Financial Capability Strategy for Wales, the Wales Talk Money Week will bring together a wide variety of organisations and policy makers from across Wales to encourage people to talk about money.

Organisations supporting the day include the Welsh Government, Wales Illegal Money lending Unit and the End High Cost Credit Alliance founded by Michael Sheen.

Various organisations will be exhibiting their work and speakers will be telling us what they are doing and why it’s important.

Participants will be sharing their latest insights, getting together to learn from one another and find new and better ways to change lives through better money management, and celebrating successes over the last year.

There will also be lots of activity on social media under the hashtag #talkmoneywales #siaradariancymru. We hope you will join in the conversation by tweeting your work. If you are holding an event during the week, or just helping people in Wales to Talk Money then please pop a pin in the map to show where you are.

Siarad am Arian yng Nghymru

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â ni ar 15 Tachwedd am 11.00 yng Nghastell Caerdydd (Yr Is-grofft) i ddathlu a chlywed am ddarparu gwaith galluogrwydd ariannol ledled Cymru, fel rhan o Wythnos Siarad am Arian Cymru (12-18 Tachwedd).

Wedi’i threfnu dan fantell Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru a Strategaeth Galluogrwydd Ariannol Cymru, bydd Wythnos Siarad am Arian Cymru yn dod ag ystod eang o sefydliadau a chynhyrchwyr polisi ledled Cymru ynghyd i annog pobl i siarad am arian.

Mae’r sefydliadau sy’n cefnogi’r diwrnod yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon Cymru a’r ‘End High Cost Credit Alliance’.

Bydd amryw o sefydliadau’n arddangos eu gwaith a bydd siaradwyr yn sôn wrthym am eu gwaith a pham ei fod mor bwysig.

Bydd cyfranogwyr yn rhannu eu syniadau diweddaraf, dod ynghyd i ddysgu gan y naill a’r llall ac i ganfod ffyrdd newydd a gwell o newid bywydau drwy reoli arian yn well a dathlu llwyddiannau’r flwyddyn a aeth heibio.

Bydd llawer iawn o weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd dan yr hashnod #siaradariancymru #talkmoneywales. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno yn y drafodaeth drwy drydar eich gwaith. Os ydych yn cynnal digwyddiad yn ystod yr wythnos, neu yn syml yn helpu pobl yng Nghymru i Siarad am Arian, yna rhowch bin ar y mapopens in new window i ddangos eich lleoliad.

Ymunwch â ni yng Nghastell Caerdydd gan gofrestru o 10.30 a dechrau am 11 am, ar ddydd Iau 15 Tachwedd i ddathlu’r holl waith sy’n digwydd ledled Cymru. Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 1pm pan weinir cinio.